Chwilio am ymddiriedolwyr
Ar ôl bod o gwmpas am 15 mlynedd, rydym wedi penderfynu mentro a dod yn elusen gofrestredig. Y prif reswm dros hyn yw bod angen i ni sicrhau cyllid craidd, er mwyn dod yn fwy sefydlog yn ariannol i ddenu'r math o gyllid yr ydym wedi dibynnu arno o'r blaen.
Er nad ydym yn cefnogi'r ffordd y mae sefydliadau anffurfiol yn cael eu gwthio i'r ymylon gan y newidiadau mewn cyllid Ewropeaidd a hefyd y meini prawf cyffredinol a ofynnir gan sefydliadau y dyddiau hyn dim ond i alluogi'r gwaith i ddigwydd, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni addasu i oroesi.
Felly rydym yn chwilio am bobl sydd â diddordeb mewn gwneud cais i fod yn ymddiriedolwyr Theatr Cynefin. Cysylltwch â ni os mai chi yw’r unigolyn hwnnw.