Rhagfyr 2006 Caerdroia, Llanrwst, Cymru
Ein trydydd cynhyrchiad ar gyfer Llwyfan Gogledd Cymru. Y Nadolig oedd y thema ac ar nosweithiau oer a serennog ar ben mynydd, yn ein llwyfan pwrpasol - Caerdroia, aeth teuluoedd gyda'i gilydd i chwilio am y tad coll. Mae crefydd, realiti a natur gysegredig yn gwrthdaro mewn taith ryfeddol.